
Mae Gŵyl Fama
wedi datblygu o Ŵyl Cilcain a ddeilliodd o gyngerdd codi arian
yng Nghapel Gad, Cilcain ar
17eg Hydref 1993 a drefnwyd
gan y cerddor Peryn Clement Evans,
yr actor nodedig Meredith Edwards ac aelodau’r capel.
Yn 2001 enillodd y bartneriaeth rhwng Gŵyl Cilcain a’i phrif noddwyr, Gwesty’r Beaufort Park, wobr genedlaethol, Arts and Business Cymru.
Yn 2007 ail-enwyd yr Ŵyl yn ‘Gŵyl
Fama’ er mwyn adlewyrchu’r amcanion a diffinio dalgylch ehangach yr Ŵyl.
Bwriad Gŵyl Fama yw cyfoethogi bywydau
pobl o bob sector o’r gymdeithas trwy gyflwyno cerddoriaeth fyw, y celfyddydau a diwylliant yr iaith Gymraeg mewn awyrgylch
gyfeillgar.
Llynedd cynhaliwyd gŵyl
fyrlymus yn y trefi a phentrefi o gwmpas Moel Fama. Eleni mae pwyllgor
Gŵyl Fama wedi paratoi rhaglen
amrywiol a gynhelir dros gyfnod o ddeg
diwrnod. Cynhelir gweithgareddau yng Nghilcain, Caerwys, Yr Hendre, Yr Wyddgrug a Loggerheads.
Ariennir Gŵyl Fama
trwy werthiant tocynnau, nawdd oddi wrth fusnesau,
rhoddion gan Ffrindiau’r Ŵyl a grantiau.
Os hoffech gefnogi’r
Ŵyl fywiog hon, mae
croeso i chi gysylltu â ni ar:
Rhif Ffôn: 01352
754212
E-bost: gwylfama@momentwm.co.uk